Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 8 Rhagfyr 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
 


39(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill i nodi pryderon posibl ynghylch diogelu plant, yn dilyn marwolaeth Arthur Labinjo-Hughes yn Solihull?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

(30 munud)

NDM7860 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’ a gasglodd 10,553 o lofnodion.

P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Gwasanaethau iechyd meddwl

(60 munud)

NDM7861 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad Holden ar fethiannau yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

2. Yn gresynu at:

a) y ffaith ei bod wedi cymryd bron i wyth mlynedd a chyfarwyddyd gan y comisiynydd gwybodaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi'r adroddiad;

b) yr oedi rhwng cyhoeddi'r adroddiad a gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig;

c) methiant y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad;

d) diffyg atebolrwydd am berfformiad gwael gwasanaethau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru;

e) effaith ddinistriol y methiannau hyn ar staff, cleifion a'u hanwyliaid.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymddiheuro i staff, cleifion a theuluoedd y rhai yr effeithiodd y methiannau yn uned Hergest yn andwyol arnynt;

b) ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd amserol yn y dyfodol; 

c) cyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru; 

d) cynnal adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyda chleifion, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill;

e) cyhoeddi gwybodaeth ystyrlon am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnwys amseroedd aros ar gyfer asesiadau iechyd meddwl a thriniaeth, fel therapïau siarad;

f) sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl;

g) gweithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. 

Adroddiad Holden (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed i wella ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i’w gwneud yn fwy diogel, ers cyhoeddi argymhellion Holden yn 2015.

3. Yn cydnabod yr heriau mawr sy’n parhau yn y gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r gwelliannau sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw.

Adroddiad Holden 2014 (Saesneg yn unig)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Cymru – Tlodi bwyd

(60 munud)

NDM7862 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd hon:

1. Yn nodi bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi.

2. Yn nodi ymhellach yr oedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu.

3. Yn cydnabod ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a bywoliaeth pobl.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o sut yr ymdrinnir â thlodi o fewn polisi ar sail trawslywodraethol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol.

Gwelliant 2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu'r cyflog byw ac yn gwario dros £111 biliwn ar gymorth lles i bobl o oedran gweithio yn 2021/22.

Gwelliant 3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni ei chynllun swyddi gan gynnwys y rhaglen kickstart, gyda'r nod o greu swyddi llawn amser i leihau'r risg o dlodi.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM7859 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd?

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>